Michaela Shahini

Insta: michaelashahini/ pepsuy

Cyberpsychology

“Wedi’i sefydlu ar sail y berthynas symbiotig rhwng dynoliaeth a thechnoleg, mae’r prosiect yma’n ymwneud â rhyng-gyswllt athronyddol seibrneteg a’r meddwl dynol. Mae’r teitl ei hun, Seibrseicoleg, yn astudio sut mae seicoleg ac ymddygiad dynol yn ymateb i ddiwylliant sydd wedi ymgolli’n llwyr mewn seibrneteg a thechnoleg artiffisial.

Fy mwriad gwreiddiol i oedd creu cyfres yn edrych ar genres ffuglen wyddonol ac arswyd seicolegol drwy ffotograffiaeth ffasiwn. Roedd y canlyniad gwreiddiol hwn yn ymwneud â chasgliad o ddillad wedi’u hysbrydoli gan ffuglen wyddonol oedd wedi’i greu drwy ailweithio dillad ail law gyda hen gydrannau electronig. Roedd y lluniau hyn yn wreiddiol yn mynd i gael eu hargraffu drwy ddulliau eraill fel syanodeipiau a phrintiau ystafell dywyll solar. Roedd y dulliau eraill o gyfleu fy ngwrthrychau’n bwriadu cynnwys ffotograffiaeth plât gwlyb a thechnegau trin ffilm, fel cannu, llosgi a thrydanu. Byddai ategolion fel masgiau a gemwaith wedi cael eu gwneud gyda llaw a’u harddangos gyda’r lluniau, wrth ymyl y darnau gosod. Byddai’r creadigaethau yma wedi cael eu fframio yn y gyfres derfynol gan greu awyrgylch a fyddai’n cynnwys y gynulleidfa ac yn gadael i fy mhrosiect i lifo o’r lluniau wedi’u printio i’r gofod arddangos. Roedd cydweithio â modelau lleol, artistiaid 3D ac artistiaid colur wedi’i gynllunio er mwyn cryfhau’r prosiect a chreu cysylltiadau â’r gymuned gelf leol.

Oherwydd pandemig COVID-19, roedd pob gofod stiwdio a gweithdy ar gau. Doedd gen i ddim mynediad at offer hanfodol, fel ystafelloedd tywyll, stiwdios, peiriannau gwnïo, a doedd gweithio gyda modelau ac artistiaid FX ddim yn ymarferol mwyach oherwydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol, ac felly roedd rhaid i mi addasu llwybr fy mhrosiect i gyfeiriad newydd.

Oherwydd y rhwystrau hyn, rydw i wedi datblygu corff o waith sydd, yn hytrach, yn edrych ar y syniad o gyfleu trawma technoleg yn gorfforol drwy gyfryngau collages digidol, celf glitsh, ac arswyd y corff. Cafodd y prosiect gyfeiriad newydd i ganolbwyntio ar syniadaeth seiliedig ar ffuglen wyddonol o beth yw ‘estron’, a’r ffenomena o ofn am ‘ddyffryn annaearol’, sef lle mae ein hofnau ni ein hunain o fod yn ffugiwr yn cael eu mynegi. Mae ffilmiau ffuglen wyddonol yr 80au wedi bod yn ddylanwad mawr arnaf i, ac artistiaid arswyd fel Zdzislaw Beksinski a H.R Giger. Mae canlyniad y prosiect yma’n astudio arswyd athronyddol technoleg a chamddefnydd dynol. Mae’r triawd olaf o ffotograffau’n portreadu creaduriaid dynolffurf sy’n symbol o drawma dwfn y dechnoleg rydyn ni wedi’i chreu. Mae’r dwylo a’r bysedd sy’n dod allan o’r creaduriaid wedi’u hystumio’n cynrychioli sut rydyn ni wedi dal ein hunain yng ngwe technoleg, gwe o ormes – mae’r dwylo’n meddiannu, bob amser yn flin.

Bydd y prosiect yma’n cael ei archwilio mewn ffyrdd newydd drwy gydol gweddill y cyfyngiadau symud ac, unwaith bydd hynny’n bosib, rydw i’n bwriadu ailddechrau fy nghysyniadau gwreiddiol a chreu’r corff o waith roeddwn i wedi gobeithio ei greu yn wreiddiol. Mae’r cysyniadau ar gyfer y lluniau hyn yn y dyfodol wedi cael eu llunio, ac mae cydweithio gydag artistiaid lleol, a pheirianwyr 3D, wedi cael eu trafod eisoes. Yn gyffredinol, rydw i’n hapus iawn gyda chanlyniad y prosiect yma, yn enwedig wrth ystyried yr amgylchiadau anodd cysylltiedig ag ef.